Bugail Aberdyfi

Line
Melody -
Line

Mi geisiaf eto ganu cân
I'th gael di'n ôl, fy ngeneth lan
I'r gadair siglo ger y tân
Ar fynydd Aberdyfi
Paham, fy ngeneth hoff, paham
Gadewaist fi a'th plant dinam
Mae Arthur bach yn galw'i fam
Ei galon bron a thorri
Mae dau oer lliwaeth yn y llwyn
A'r plant yn chwarae efo'r wyn
O tyrd yn ôl, fy ngeneth fwyn
I fynydd Aberdyfi.
2. Nosweithiau hirion, niwlog, ddu
Sydd ar fy mlaen, fy ngeneth gu
O agor eto drws y ty
Ar fynydd Aberdyfi
O na chael glywed gweddi dlos
Dy Arthur bach, cyn cysgi nos
Ei rhyddiau bychan fel y rhos
Yn wylo am ei fami.
Gormesaist lawer arnaf, Men;
Gormesais innau, dyna'r ben.
O tyrd yn ôl, fy ngeneth wen
I fynydd Aberdyfi.
3. Fel hyn y geisiaf ganu cân
I'th gael di'n ôl, fy ngeneth lan
I eistedd eto ger y tân
Ar fynydd Aberdyfi.
Rwy'n cofio'th lais yn canu'n iach
Ond fedri di, na neb o'th ach
Ddiystyru gweddi plentyn bach
Sydd eisiau gweld eu fami.
Rhyw chwarae plant oedd dweud ffarwel;
Cydhaddau wnawn, a dyna ddel.
Tyrd ithau'n ôl, fy ngeneth fel,
I fynydd Aberdyfi.

Line

| Welsh Songs Index | Home Page Robokopp |Home Page Musica|
Line