Yn Nyffryn Clwyd

The Missing Boat

Line
Melody -
Line

Yn Nyffryn Clwyd nid oes
Dim ond darn bach o'r Groes,
Oedd gynt yn golofn ar las fedd;
Y bugail gân i'w braidd,
Tra Einion Ririd Flaidd
Yn gorffwys dan ei droed,
Gan afael yn ei gledd.
2. Ond cedwir ei goffâd
Er mewn pridd, mewn parhad,
Glân yw ei gleddyf fel erioed;
Os caru cofio'r wyd
Am ddolydd Dyffryn Clwyd,
O cofia gofio'r dewr sydd
Yno dan dy droed.
3. Mewn angof ni chânt fod
Wyr y cledd, hir eu clod,
Tra'r awel tros eu beddau chwyth;
Y mae yng Nghymru fyrdd
O feddau ar y ffyrdd
Yn balmant hyd pa un
Y rhodia rhyddid byth.

Line

| Welsh Songs Index | Home Page Robokopp |Home Page Musica|
Line