Yn Iach i ti Gymru

Farewell My Dear Country

Line
Melody -
Line

Yn iach i ti Gymru, ffarwel i'th fynyddoedd,
Dy nentydd grisialog a'th ddolydd diail;
Y coedydd lle treuliais fy ieuanc flynyddoedd,
Lle gwyliais agoriad y blodau a'r dail.
Mae'r llong yn y porth yn disgwyl amdanaf,
O gwae i mi feddwl y maedael erioed;
Ffarwel! o'r holl famau, y buraf a'r lanaf,
A'm cartref gwyn annwyl yng nghanol y coed.
2. Fy nwylo ddychwelant yn llawn neu yn weigion
I agor drws annwyl fy nghartref gwyn draw;
Mae'r afon yn sisial yng nghlust yr hen eigion,
Gan ofyn pa ddiwrnod yn ôl â fi ddaw.
O am dy hen awyr i wrido fy ngruddiau,
A'm hwian fel plentyn i huno mewn hedd;
A phan y gadawaf hen fyd y cystuddiau,
Rhwng muriau'r hen fynwent, O torrwch fy medd.

Line

| Welsh Songs Index | Home Page Robokopp |Home Page Musica|
Line