Y Saith Gysgadur

Once A Farmer and His Wife

Line
Melody -
Line

Trigai gwraig bur gysglyd gynt.
Yn Llan Mathafarn Eithaf,
Bloeddiai'r gwr nes colli' wynt,
Hi gysgai er ei waethaf;
'Hei ho, 'medd hi, fel teisen gri,
Medd yntau, wedi sorri,
'Os nad wyt sâl, cwyd o dy wâl,
Neu aros tan yfory.'
2. Twr o blant am ddeg o'r gloch
Ddechreusant swn a chyffro,
Wedi bloeddio creulon croch,
Medd hithau'n hanner effro;
'Am saldra nawr, nis gwyddoch fawr,'
Medd yntau, 'gwn o'r gore,
Dylyfu gên yw'th saldra hen,
A'th glefyd di bob bore.'
3. Yna gwr y wraig ddi-fudd
Darawyd gan y clefyd,
Cysgai'r plant tan hanner dydd,
A chysgai yntau hefyd;
Ddoi 'run o'i glwyd i'w fore fwyd,
Na chynnau tân y bore,
Ac felly siwr, y wraig a'r gwr
Wnaent gysgu am y gore.

Line

| Welsh Songs Index | Home Page Robokopp |Home Page Musica|
Line