Trafaeliais y Byd

Line
Melody -
Line

Trafaeliais y byd, ei led a'i hyd
Pan oeddwm yn ifanc a ffol
Bydd glaswellt ar fy llwybrau i gyd
Cyn delwyf i Gymru'n ol.

Pe cawn i'n awr adenydd y wawr
Mi hedwn i fryniau fy ngwlad
I weld y rhosod cochion mawr
Ar fwthyn fy mam a 'nhad.

Chorus:
Cyn delwyf i Gymru'n ol fy ffrinds
Cyn delwyf i Gymru'n ol
O bydd glaswellt ar fy llwybrau i gyd
Cyn delwyf i Gymru'n ol.

Ni choeliwn gynt a 'mhen yn y gwynt
Fod baich o hiraeth mor drwm
Cawn daflu'r baich i'r llif ar ei hynt
Pe safwn ar Bont y Cwm.

Ffarwel fy nhad, ffarwel fy mam
A heno rhowch follt ar y ddor
Ffarwel i'r eneth fach ddi-nam
Sy'n wylo ar lan y mor.

Line

Line