Pan Gyfyd yr Heulwen

When Morning is Breaking

Line
Melody -
Line

Pan gyfyd yr heulwen, ar fynydd adôl,
Gan yrru tywyllwch y nos yn ei ôl,
Pan draidd yr ehedydd ymhellach na'r clyw,
Am nodded dy edyn eiddunwn, O Dduw.

2. Pan ddaw yr awr fachlud ar fynydd a dôl
Gan alw gogoniant y nos yn ei ôl.
Pan dry y gorllewin yn fflamgoch ei liw,
Am nodded dy edyn, eiddunwn, O Dduw.

Line

Line