Merch y Melinydd

The Miller's Daughter

Line
Melody -
Line

Os yw fy annwyl gariad
Yn caru dwy neu dair,
Ac yn eu cadw'n fodlon
Bob marchnad a phob ffair;
O peidied yntau feddwl
Fod hynny'n boen i fi,
Rwyf fi mor rhydd ag yntau
I garu dau neu dri.

2. Phrioda'i ddim eleni,
Chwedleua'i ddim â neb,
Twyllodrus iawn yw meibion
A fedrant ddweud yn deg;
Po deced bo nhw'n d'wedyd,
O! gwaetha'i gyd y daw,
Llawenydd pob merch ifanc
Yw'i dewis ar ei llaw.

3. Os oes rhyw dair neu bedair
Yn hoff ohono ef,
Mae gennyf finnau bedwar
Ar bymtheg yn y dref;
Ond nhw sy'n dweud fel yma,
A nhw sy'n dweud fel hyn,
Dwyf fi ond gwenu arnynt,
A dal fy serch yn dynn.

4. Fe ddwed fy mod yn euog
Oherwydd gwrid fy moch,
Os gwrida ef yn welw,
Mi wrida innau'n goch;
A dwedaf yn ei wyneb
Ag wyneb dewr pob dyn,
'Llawenydd merch melinydd
Yw caru dim ond un.'

Line

| Welsh Songs Index | Home Page Robokopp |Home Page Musica|
Line