Pant Corlan yr Wyn

Let Now the Harp

Line
Melody -
Line

Mehefin ddaeth, fugeiliaid mwyn,
Ein defaid hwnt ynt heb eu hwyn,
Yn ffoi'n lluddedig dan y twyn
I lyn neu frwyn am loches.
Y gwlanog gnwd i'r wyn a fu
Yn wenwisg deg drwy'r gaeaf du,
Dymunant nawr i'r blaidd neu'r ci
Ei gwisgo yn eu lle, neu ni:
O'u pwysig gnwd i feddu'r cnu
Sy'n llethu rhai rhy gynnes.
2. O'r weirglodd gul, a'r darren lom,
Yr oenig drown, a'r ddafad drom,
Yn siw cânt fynd, er maint y siom,
Lle gwelom nesaf geulan,
Dan honno, heb wneud iddi gam,
Mor wyn â'r oen, ni wnawn ei fam;
Ac wedi'i channu, heb ddweud pam,
Ei gwisg a gneifiwn, ac heb nam,
Am ei gwiriondeb â ar lam,
Ei dinam ryddid yngan.
3. I wirion digon hyn o wae
Ond eto cyn y troedia gae,
I fyrdd o'i rhyw yn aros mae
Oer rwymau er eu hannel;
Ond caethion fyddant ond dros ddydd,
I brofi gwerth eu rhodiant rhydd;
A phan giniaw-wn dan y gwydd,
Ein gobaith fo mai felly bydd,
I'r braw wnâi fugail hoff yn brudd
Cyn d'wedydd i ymadel.

Line

| Welsh Songs Index | Home Page |
Line