
|
Mab wyf i sy'n byw dan benyd Am f'anwylyd fawr ei bri; Gwaith fwy'n ei charu'n fwy na digon, Curio wnaeth fy nghalon i. Gwell yw dangos beth yw'r achos Nag ymaros dan fy nghur; Dere'r seren atai'n llawen, Ti gei barch a chariad pur. |
2. 'Pwylla'r bachgen gwyllt dy anian, Rwyf yn ofni rhwymo'm llaw, Wrth gael digon o rybuddion Gan gariadon yma a thraw. Rwy'n rhy ifanc eto i ddianc, Cymraf bwyll cyn mynd rhy bell; Pan fwy'n barod ryw ddiwrnod Clywed gei, os byddi gwell.' |

| Song Index
| Home Page |
