Fy Nghalon

My Heart

Line
Melody -
Line

Fy nghalon, a gefais i oesi mewn byd,
Ond i weld fod i gariad 'run derfyn â llid?
Gyfeillion, rhieni, gariadon, ai gwir
Mai diwedd pob serch yw galarnad mor hir?

2. Mor hyfryd yw cwrdd â dewisol rai'r fron,
A'u mawrwerth, pa fynwes yn well wyr na hon?
Ac yn awr gan nas gwelaf anwyliaid im mwy,
Pa fynwes o'u herwydd sydd ddyfnach ei chlwy?

3. Eneidiau wir hoffais tu arall i'r bedd,
Os nad oes ymweliad â'r hoffaf o wedd,
Y rhai wnaeth ffyddlondeb deilyngaf o glod,
Fynychaf raid wylo am iddynt gael bod.

Line

Line