Cadair Idris

Line
Melody -
Line

Bûm innau'n rhodianna yn nyffryn Llangollen,
Yn dringo y mynydd i Gaer Dinas Brân,
Yn edrych i fyny at Gynwyd a Chorwen
Tra mynydd Rhiwabon yn deifio gan dân.
Mi a welais lân ddyfroedd aberoedd y Berwyn,
A da ardal Dowrdu ar aswy a de,
Ond mi welais lân fwthyn, nis gwn i beth wedyn,
Nis gallwn i weled dim byd ond efe.

2. Disgynnais o'r castell a chroesais yr afon,
Fel curai fy nghalon anghofiaf fi byth;
Ac fel heb yn wybod i'm traed, ar fy union
At dy Jenny Jones ymgyfeiriais yn syth.
Ac er bod hi yn eistedd ym mysg ei chwiorydd,
A'i thad wrth ei hochor yn siarad â fi,
Gyda'i brawd o'r tu arall, nis gwn i mo'r herwydd,
Ni allwn i weled neb byw ond hyhi.

3. Yn eglwys Llangollen, tra'r clychau yn canu,
Os euthum yn wirion, mi wn pwy a'm gwnaeth,
Unasom â'n gilydd, byth byth i wahanu
Yn dlawd neu'n gyfoethog, yn well neu yn waeth.
Yna da gennyf wybod, 'nenwedig fy hunan,
Mae Jenny yn gwybod yn well na myfi,
Mae yn dda gennyf ganu, mae'n dda gennyf arian,
Ond ni allaf garu dim byd heblaw hi.


I don't actually know if there ever was a Jenny Jones or whether the name was made up for the song but it is quite an old traditional song so your guess is as good as mine.

Following on from her being the pride of Llangollen, I guess the pub is the The Jenny Jones Hotel, Abbey Road, Llangollen, North Wales. Probably the only connection is that they thought it would be a good name for a pub in Llangollen!

Llangollen is on the main A5 road, built originally by the engineer Telford. It goes to the Irish ferry at Holyhead, Anglesey. Llangollen is probably most famous for hosting the annual International Eisteddfod, which is a huge gathering for competitive music, poetry, and dance. - S. S. Walker

Line
Line