Ystafell Cynddylan

The Hall of my Chieftain

Line
Melody -
Line

Boed curiad y stwffwl yn araf a gwan,
Pan ddelot i guro wrth ddrws yr hen fan
Lle buom yn gwledda hyd doriad y dydd
Ystafell Cynddylan sy'n dywyll a phrudd.

2. Pan oedd y penaethiaid yn dawel mewn hun,
Y gelyn ddaeth arnynt gan daro pob un;
Telynor Hen Bowys gymerwyd trwy drais,
Mae telyn Cynddylan yn nwylo y Sais.

3. Roedd telyn Cynddylan yn arfer rhoi gwys,
A galwad i'r cleddyf oedd yn yr un llys;
Os mwyach ni chana prif delyn y byd
Mae cleddyf Cynddylan yn hongian o hyd.

4. Ystafell Cynddylan sy'n dywyll a phrudd,
I ddwyn y telynor a'i delyn yn rhydd,
Bro Powys sy'n bloeddio yn uchel ei llais,
'rhoed cleddyf Cynddylan yng nghalon y Sais.'

Line

| Welsh Songs Index | Home Page Robokopp |Home Page Musica|
Line