
|
Ar D'wysog gwlad y bryniau, O boed i'r nefoedd wen Roi iddo gyda choron, Ei bendith ar ei ben. Pan syrthia'r aur wialen, Pan elo un i'r nef, Y nef a ddalia i fyny Ei law frenhinol ef! Ar D'wysog gwlad y bryniau, O boed i'r nefoedd wen Roi iddo gyda choron, Ei bendith ar ei ben. |
2. Ei faner ef fo uchaf Ar goedwig fyw y môr, A'i liniau ef fo isaf Wrth orseddfainc yr Iôr. Dyrchafer gorsedd Prydain Yng nghariad Duw a dyn, Yn agos at orseddfainc Y Brenin mawr ei hun. Ei faner ef fo uchaf Ar goedwig fyw y môr, A'i liniau ef fo isaf Wrth orseddfainc yr Iôr. |

| Song Index
| Home Page |
